Grŵp Workerbee yn cefnogi’r label o Wrecsam Tŷ’r Ddraig

25 May, 2023
  • Y buddsoddiad yn y label newydd yw dêl fawr gyntaf Grŵp Workerbee Banijay UK

Mae Grŵp Workerbee am gefnogi’r label cynhyrchu newydd sbon o Ogledd Ddwyrain Cymru, Tŷ’r Ddraig. Y ddêl gyda’r label cynhyrchu yw’r buddsoddiad mawr cyntaf i Grŵp Workerbee ers cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i ehangu ac i fuddsoddi a chreu partneriaethau yng Ngogledd Lloegr a Chymru y llynedd.

Mae Tŷ’r Ddraig yn cael ei sefydlu gan Ben Smith o Wrecsam. Bydd yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Creadigol ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu cyfresi ffeithiol poblogaidd a rhaglenni nodwedd i blatfformau yn y DU ac yn rhyngwladol.

Fel person creadigol ym maes teledu, mae Ben wedi cynhyrchu rhaglenni o Ogledd Orllewin Lloegr ers dros 20 mlynedd, gan weithio’n fewnol i’r BBC ac ITV, yn ogystal â chwmnïau annibynnol fel Red Sauce, Shiver True North a Workerbee, lle bu’n Bennaeth Datblygu.

Yn ei swydd ddiweddaraf fel Cynhyrchydd Gweithredol gyda Red Sauce, Ben oedd yn goruchwylio cynyrchiadau label Zinc Media ym Manceinion. Bu’n allweddol adeg ei sefydlu ac yn ystod twf cyflym y label – gan sicrhau comisiynau a dod yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfresi i amrywiaeth o ddarlledwyr mawr. Mae hyn yn cynnwys Legends of Comedy with Lenny Henry a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Channel 4, yn ogystal â dros 200 awr o’r brand Bargain Loving Brits ar gyfer Channel 5 – ac yn rhan o’r archeb fwyaf erioed i grŵp Zinc Media.

Dywedodd Rick Murray, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Workerbee:
“Rydyn ni’n gwybod bod Ben yn dalent anferthol felly fe wnaethon ni neidio ar y cyfle i fuddsoddi yn ei label Cymreig. Yn draddodiadol, Caerdydd sydd wedi denu’r buddsoddiad mwyaf, ond gyda’i gysylltiadau cryf â’r diwydiant teledu yng Ngogledd Orllewin Lloegr, sy’n tyfu’n gyflym, mae’n teimlo bod Gogledd Ddwyrain Cymru yn barod am y sylw. Cefnogi cwmnïau newydd, y tu allan i Lundain, oedd bwriad Grŵp Workerbee yn y lle cyntaf, a dyma’r ddêl gyntaf o blith nifer i wneud hynny.”

Ychwanegodd Ben Smith:
“Mae’r syniad o adeiladu rhywbeth mor arwyddocaol yn fy nhref enedigol yn freuddwyd oes. Ein nod yw gweithio gyda’r gymuned gynhyrchu leol sy’n bodoli’n barod yn ogystal ag addysg uwch i adeiladu cwmni cynhyrchu annibynnol y gall Gogledd Ddwyrain Cymru fod yn falch ohono. O’r cychwyn cyntaf, mae gennym gynlluniau i sefydlu nifer o brentisiaethau yn Tŷ’r Ddraig, gan hyfforddi talentau lleol mewn cynhyrchu, sain ac ôl-gynhyrchu. Alla i ddim aros i fwrw ati gyda’n llechen gyffrous o syniadau newydd ac i ddechrau cynhyrchu rhaglenni ffeithiol ar gyfer y gynulleidfa ehangaf posib. Mae nifer o brosiectau cydweithredol gyda chyfresi rhwydwaith ar y gweill hefyd gydag ymgyrchoedd lleol o fewn y rhanbarth, a byddwn yn cyhoeddi mwy yn fuan.”

Dywedodd Patrick Holland, Prif Swyddog Gweithredol Banijay UK:

“Mae’r Gronfa Twf yn ymwneud â grymuso talent, ac mae cefnogi talent arbennig fel Ben, wrth iddo adeiladu ei ganolfan yng Ngogledd Cymru, yn gwneud synnwyr mawr yn strategol ac yn greadigol.”